Ffurflen Cynnig Safleoedd Posib

Yn dod i ben ar 2 Hydref 2024 (24 diwrnod ar ôl)
Edrychwch am yr eicon sylwadau glas i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma

Galw am Safleoedd Posib

Cam allweddol yn y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol yw adnabod safleoedd posib i'w gynnwys yn y Cynllun ar gyfer ystod o ddefnyddiau tir gan gynnwys tai, cyflogaeth a defnyddiau eraill megis cymunedol a hamdden. Mae hefyd yn bwysig nodi safleoedd sydd angen eu gwarchod oherwydd eu tirwedd arbennig, mannau agored neu werth cadwraeth.

Mae'r Galw am Safleoedd Posib bellach ar agor ac mae'r Cyngor yn galw ar ddatblygwyr, tirfeddianwyr, grwpiau cymunedol ac aelodau'r cyhoedd i gyflwyno safleoedd yn ffurfiol i'w cynnwys o fewn Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Gwynedd.

Os oes gennych chi safleoedd yr hoffech i ni eu hystyried yn y CDLl, cyflwynwch nhw gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein isod – gweler Gwybodaeth Cyflwyno. Fel arall, gellir cael copïau o'r ffurflen trwy gysylltu â'r Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar

polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru

Gwybodaeth am gyflwyno

Llenwch ffurflen ar wahân ar gyfer pob safle rydych chi yn cynnig.

Ar ôl i chi ddechrau llenwi'ch ffurflen, bydd eich cynnydd yn cael ei arbed yn awtomatig er mwyn eich galluogi i'w chwblhau yn nes ymlaen. Gellir cael mynediad at unrhyw ffurflenni sydd heb eu cyflwyno trwy fynd i Fy Nghyfrif a dewis Drafftiau. Gallwch weld ac argraffu'r cyflwyniadau safle a gwblhawyd trwy fynd i Fy Nghyfrif a dewis y tab Heb eu prosesu. Mae botwm argraffu ar gael i bob ffurflen a gyflwynir.

Cyflwyno

I gyflwyno'ch safle(oedd) cliciwch yr swigen siarad glas ar y chwith. I gael rhagor o gymorth, gweler y blychau cymorth melyn ar ddechrau a diwedd yr ymgynghoriad hwn.

Caiff y wybodaeth a gyflwynwyd ar y ffurflen Safle Posib ei defnyddio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) i asesu pob Safle Posib yn erbyn Methodoleg Asesu’r Safleoedd Posib. Nid yw cyflwyno Safle Posib yn rhoi unrhyw warant y bydd y safle yn cael ei ddynodi yn y Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd.

Dylai cynigwyr safle gyfeirio at y ‘Nodiadau Cyfarwyddyd’ a ‘Methodoleg Asesu’r Safle Posib’ wrth gyflwyno eu Safle Posib. Mae’r ddwy ddogfen ar gael yn electronig ac mae copïau papur ar gael trwy gysylltu âr Gwasanaeth Polisi Cynllunio. Rhaid cwblhau ffurflen cynnig Safle Posib ar wahân ar gyfer pob safle sy’n cael ei gyflwyno. Os fydd defnydd amgen yn cael ei gynnig ar gyfer yr un safle, bydd yn ofynnol cael ffurflen cynnig Safle Posib ar wahân ar gyfer pob defnydd.

Mae’r ffurflen Safle Posib yn gosod allan yr holl wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn i’r ACLl allu ymgymryd ag asesiad cadarn. Felly mae’n bwysig bod cynigwyr safle yn cwblhau’r holl adrannau perthnasol ar y ffurflen. Os nad yw cynigion yn cael eu gwneud drwy’r ffurflen electronig, bydd angen darparu map o’r Safle Posib (gweler Rhan 3) er mwyn i’r cyflwyniad allu cael ei dderbyn.

Bydd yr Galw am Safleoedd Posib yn agor ar y 10 Gorffennaf am gyfnod o 12 wythnos. Mae angen i ffurflenni Safle Posib sydd wedi eu cwblhau gael eu derbyn gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol erbyn 2 Hydref 2024.

Sut fyddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth

Ar 25 Mai 2018 daeth Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) i rym, gan osod cyfyngiadau ar sut all sefydliadau gadw a defnyddio data personol a diffinio hawliau mewn perthynas â’r data hwnnw. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei datgelu i ni ei phrosesu yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd. Gallwch weld Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor yma: [linc]

Bydd yr holl Safleoedd Posib ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio ar ffurf cofrestr Safle Ymgesiol ac felly ni ellir eu trin yn gyfrinachol. Bydd manylion am y Safleoedd Posib hefyd yn cael eu dosbarthu i randdeiliaid mewnol ac allanol i’w galluogi i gael eu hasesu fel rhan o broses Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd. Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei gynnwys fel rhan o hyn.

Bydd manylion cyswllt yr holl gynigwyr safle a’u hasiantaethau (ble y bo’n berthnasol) yn cael eu hychwanegu at bas ddata CDLl Gwynedd. Bydd y Cyngor yn gohebu â’r rhanddeiliaid drwy e-bost oni nodir fel arall.

Mae’r holl ffurflenni a dogfennau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd iaith ddewisol y cyflwyniad yn cael ei thrin fel iaith ddewisol cyfathrebu.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig