Cyfarwyddiadau

Gallwch ddefnyddio'r system ymgynghori ar-lein i ddarllen dogfennau a gyhoeddir gan y cyngor ac i naill ai wneud sylwadau yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus neu weld sylwadau a wneir gan eraill ar opsiynau safleoedd posib, materion neu bolisi.

Cofrestru, mewngofnodi neu ofyn am gyfrinair newydd

Defnyddiwch y dolenni yn y bar diogelwch sy'n rhedeg ar draws top y wefan hon. Mae ganddo gefndir du ac mae'r dolenni mewn gwyn yn y gornel dde uchaf.  

Dim ond os ydych am wneud sylwadau y mae angen i chi gofrestru a mewngofnodi, gallwch weld sylwadau a wnaed heb gofrestru neu fewngofnodi.

Rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair

Defnyddiwch y ffurflen anghofio cyfrinair sydd wedi'i chysylltu a’r ffurflen fewngofnodi. Rhowch y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch gofrestru ag ef, yna gwiriwch eich mewnflwch am gyfarwyddiadau pellach. Os nad ydych yn derbyn e-bost, gwiriwch eich ffolder sbam. Os nad oes gennym gofnod ohonoch, ni fyddwn yn anfon e-bost atoch.

Gwneud sylwadau

Bydd dogfennau cyfredol sy'n agored i ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu rhestru ar y dudalen hafan. Dewiswch un o'r dogfennau ac yna o'r dudalen gynnwys, cliciwch ar y bennod, y safle, y mater neu'r polisi y mae gennych ddiddordeb ynddo.

I wneud sylwadau, cliciwch ar y swigen siarad  wrth ymyl y safle neu bolisi y mae gennych ddiddordeb ynddo a llenwch y ffurflen cynrychiolaeth ar-lein.

Gweld sylwadau

Gallwch weld sylwadau sydd wedi ei cyflwyno heb gofrestru neu fewngofnodi.

Dewiswch un o'r dogfennau o hafan y Cynllun Lleol ac yna o'r dudalen gynnwys, cliciwch ar y bennod, y safle, y mater neu'r polisi y mae gennych ddiddordeb ynddo.

I weld sylwadau, cliciwch ar yr eicon chwyddwydr  ger y safle, y mater neu'r polisi y mae gennych ddiddordeb ynddo a bydd crynodeb o'r holl sylwadau a gyhoeddir yn cael eu rhestru.

Mae nifer y sylwadau yn cael eu harddangos mewn cromfachau wrth ymyl yr eiconau. Sylwch fod sylwadau a dderbynnir yn cael eu prosesu gan staff gweinyddol cyn eu cyhoeddi, felly ni fydd sylwadau sydd newydd eu postio yn ymddangos yma ar unwaith.

Gweld Mapiau

Pan mae yna fap rhyngweithiol o safle neu ardal bolisi, bydd eicon map  i’w gael yn gyfagos i'r disgrifiad neu'r polisi ar gyfer y safle. I weld y map, cliciwch ar yr eicon.